Sut mae’r gronfa’n gweithio?
Mae hon yn gronfa ar gyfer unigolion, yn hytrach na sefydliadau. Mae gennym uchafswm o £100 ar gyfer pob cais fel ein bod yn gallu ceisio helpu cymaint o bobl â phosibl. Os oes angen mwy o arian na hyn arnoch, gadewch i ni wybod.
Sut allaf wneud cais am arian?
Gwnewch gais am unrhyw faint, boed yn £55 i lenwi’r cypyrddau, £100 i helpu gyda’r rhent, neu £5 am dacsi i fynd at y meddyg. Gallwch wneud cais ar gyfer rhywun arall hefyd, ond gofynnwn i chi roi galwad i ni i ddechrau’r broses.
Defnyddiwch y ffurflen isod i wneud cais ar lein, neu ffoniwch os yn haws ar [rhif ffôn yn dod yn fuan].
Sut a phryd y caf yr arian?
Rydym yn gobeithio rhyddhau’r arian i chi o fewn deuddydd, yn dibynnu ar ble yr ydych yn y ciw a faint o roddion sydd gennym. Gadewch i ni wybod os mae’r angen o frys; fel arall, gwneir taliadau ar yn y drefn y derbynnwyd y ceisiadau.
A gaf wneud cais ar ran rhywun arall?
Cewch.
Mathau gwahanol o gymorth ariannol
Mae gan Gefnogaeth Gymunedol Corona Machynlleth wybodaeth am gymorth ariannol a chefnogaeth i rentwyr.