Bagiau llysiau am ddim gan Planna Fwyd/Plant Food

Mae’r prosiect tyfu llysiau lleol gwych Planna Fwyd/Plant Food wedi cynnig nifer o fagiau llysiau i ni i’w rhoi i’r rhai sy’n cael grant gennyn ni.

Mae ganddyn nhw lwyth o lysiau dros ben ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n gobeithio dosbarthu’r rhain i bobl a theuluoedd lleol rhwng nawr a mis Hydref. Mae ymateb brwd
wedi bod yn barod gan ein hymgeiswyr gyda’r rhan fwyaf yn dweud bod hwn yn syniad gwych.

Rhagor o wybodaeth am Planna Fwyd/Plant Food yma.