Mae’r pandemig wedi amlygu cymaint yr ydym angen ein ffrindiau, cymdogion a chymunedau. Rydym yn dibynnu ar ein gilydd. Rydym angen busnesau lleol ar gyfer swyddi a bwyd, i ofalu am ein plant, ac i weini peint nos Wener. Mae busnesau lleol yn dibynnu arnom ninnau i’w cefnogi. Gall y cadwyn hwn dorri mewn amseroedd anodd. Mae cadw’r gadwyn yn gryf yn dda i ni gyd.
Mae llawer ohonom yn ffeindio’r amseroedd hyn yn anodd. Rhai’n fwy na’u gilydd. Ond mae gan ein gymuned glós galon enfawr.
Mae’r Gronfa Gyd-sefyll yn cynnig grantiau i unigolion sy’n wynebu caledi. Allwch chi gyfrannu i helpu pobl sydd mewn angen yn eich cymuned?